Gwnewch dai gwag yn dai cymdeithasol meddai Cynghorydd

 
 

Mae wedi dod i’r amlwg fod sir Conwy yn gartref i dros 1,000 o dai sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd.

Yn ôl strategaeth tai lleol Cyngor Conwy, mae 1,194 tŷ gwag yn sefyll yn wag ers blynyddoedd a 1,460 ail gartref yn y sir.

Mae Cynghorydd Llanrwst, Aaron Wynne, yn mynnu ‘gweithredu radical’ er mwyn dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd fel modd o liniaru peth ar argyfwng tai y sir.

Dywedodd y Cyng. Wynne;

“Mae 1,000 o dai gwag yn sir Conwy, sy’n nifer frawychus. Rhif afresymol.

Mae gan Gonwy 891 o gartrefi mewn angen sydd wedi eu cofrestru ar gyfer cartrefi cymdeithasol gydag un mewn deg yn aros tair mlynedd neu fwy. Mae’n amlwg fod angen cynllun newydd, blaengar ac uchelgeisiol arnom er mwyn gwneud tai yn hygyrch i bobl leol.

Rwyf yn dymuno gweld y Cyngor, Llywodraeth Cymru a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gweithio gyda pherchnogion eiddo sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd er mwyn dod â’r tai yma yn ôl i ddefnydd a’u hychwanegu at y stoc rhent cymdeithasol.

Byddai hyn yn dasg a hanner, ond gan fod yr arfer o adeiladu tai cymdeithasol i’w rhentu wedi slofi’n sylweddol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae gofyn inni ail-greu y ffordd rydan ni’n ychwanegu at y stoc rhent cymdeithasol, wrth i’r galw amdano barhau i godi.

Byddai dychwelyd yr adeiladau yma sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd yn ôl i ddefnydd yn mynd peth ffordd at liniaru’r argyfwng tai yng Nghonwy heb orfod adeiladu cannoedd o dai drudfawr sydd allan o gyrraedd pobl leol, a hynny ar ein tiroedd gwyrddion gwerthfawr.”

 

© Copyright Conwy Online